Mae newidiadau yn y GIG yn digwydd bob dydd mewn ysbytai, meddygfeydd a gwasanaethau cymunedol eraill. Mae hyn yn digwydd am lawer o resymau. Mae ein hanghenion iechyd yn newid. Mae datblygiadau meddygol yn arwain at ffyrdd gwahanol o ddarparu gofal iechyd. Mae sialensiau o ran gweithlu a sialensiau eraill yn gallu gorfodi newidiadau i’r ffordd mae gwasanaethau GIG yn cael eu darparu.
Rhaid i Fyrddau Iechyd lleol drefnu, cynllunio a datblygu gwasanaethau GIG gyda phobl leol, o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau iechyd lleol yn diwallu anghenion y bobl a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, nawr ac yn y dyfodol.
Rhaid i Fyrddau Iechyd roi gwybod i’w CIC lleol pan eu bod eisiau gwneud newid sy’n effeithio ar bobl. Rhaid i CICau weithio gyda’u Bwrdd Iechyd, pryd bynnag ei fod yn ystyried gwneud newid.
Mae CICau’n cynrychioli lles y cyhoedd a’r claf. Mae CICau’n sicrhau bod sefydliadau GIG yn gofyn i bobl am eu barn, a’u bod yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.
Rydym yn gofyn i’r Bwrdd Iechyd i ddangos i bobl:
Rydym yn cytuno gyda’r Bwrdd Iechyd beth ddylai wneud i helpu sicrhau bod pobl:
Rydym yn edrych yn ofalus ar yr hyn mae pobl wedi’i ddweud. Yn aml, mae barnau a syniadau gwahanol gan bobl am yr hyn sydd orau.
Rydym yn sicrhau bod y Bwrdd Iechyd:
Unwaith fyddwn ni wneud gwneud hyn, mae angen i ni benderfynu a ydym yn cytuno gyda’r newidiadau mae’r Bwrdd Iechyd eisiau eu gwneud.
Wrth ddod i benderfyniad, rhaid i ni ystyried:
Os nad ydym yn ystyried bod y Bwrdd Iechyd wedi:
Byddwn yn rhoi gwybod i’r Bwrdd ac yn gofyn iddo eu cywiro. Os na fydd hyn yn gweithio, byddwn yn gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i benderfynu beth ddylai ddigwydd.