Beth mae aelodau’n wneud?
- Ystyried materion iechyd o safbwynt y cyhoedd;
- Ymweld â gwasanaethau lleol a siarad â staff a chleifion a helpu i baratoi adroddiadau;
- Edrych ar gynigion gwasanaethau iechyd cenedlaethol a lleol a rhoi eich barn arnynt;
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd CIC;
- Darllen a gwneud sylwadau ar amrediad eang o ddogfennau.
Beth mae’r CIC yn ddymuno’i weld yn eu haelodau?
- ‘Rydym angen pobl o bob cefndir – yr unig beth sy’n hanfodol yw gwir ddiddordeb mewn gwella gwasanaethau iechyd i’ch cymuned.
- Diddordeb yn yr ardal leol, yn cynnwys dealltwriaeth materion iechyd lleol.
- Yn gallu gweithio gyda phobl mewn tîm.
- Y gallu i wrando ar eraill a chyfnewid barn.
A ydych angen rhagor o wybodaeth am fod yn aelod CIC?
Os hoffech gael sgwrs â rhywun am fod yn aelod neu os ydydych yn dymuno rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni ar: Wrecsam 01978 356178, Bangor 01248 679284, E-bost Admin2@wales.nhs.uk