Safonau'r Iaith Gymraeg
Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC) wedi ymrwymo i gydymffurfio gyda’r Safonau’r Iaith Gymraeg a ddaeth i rym ar 30 Mai 2019. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant ar y CICGC i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.
Mae’r Safonau Iaith wedi eu rhannu yn 5 dosbarth:
Mae CICGC yn paratoi a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ei gydymffurfiad efo’r Safonau Iaith, ac yn adrodd ar ddatblygiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn yn y sefydliad i gryfhau’r gwasanaethau Cymraeg.
Adroddiad Blynyddol Safonau Cymraeg CICGC 2021-2022
Polisi Iaith
Mae’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru/ CICGC wedi llunio Polisi Iaith newydd er mwyn sicrhau bod y CICGC yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r polisi iaith newydd yn amlinellu sut y bwriedir cydymffurfio â’r Safonau a sut bydd y CICGC yn mynd ati i fanteisio ar bob cyfle posib i hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau Cymraeg.
Cwynion iaith
Bydd unrhyw gwynion yn ymwneud â chydymffurfiad â’r Safonau neu ddiffyg ar ran y CICGC i ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hadrodd i’r Grwp Iaith Gymraeg y Cyngor Iechyd Cymuned, ac yn dilyn trefn gwynion arferol y CICGC.
Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwyn iaith at Gomisiynydd y Gymraeg: