Mae gan bob sir bwyllgor lleol sy’n cynnwys 12 o aelodau gwirfoddol di-dâl.
3 cynghorydd wedi eu henwebu gan lywodraeth leol y sir
3 person wedi eu henwebu gan sefydliadau gwirfoddol lleol
6 person wedi eu hapwyntio gan Lywodraeth Cymru
Gall pwyllgorau lleol hefyd wahodd eraill i ymuno a hwy ar gyfer prosiectau penodol. Cysylltwch a Admin2@wales.nhs.uk os hoffech mwy o wybodaeth ar ddod yn aelod penodedig neu yn aelod cyfetholedig o’r CIC.